Some Ioan Trithyd poems (Welsh only)

 

Y GOLEUNI TRYDANOL (1890)

Unwyd hen ddeddfau anian, – enynwyd

Mân ronyna’r trydan;

Celf un doeth* ac elfen dân

Oleuant fel gwawl huan.

 

*Eddison

*****

ENGLYN I “SEREN Y DE.” (1891)

Nid pabwyr a gwer y “Seren – y De,”

Ond daeth fel clir heulwen

Ar unwaith; nid llaith yw’r llen

A yra drwy’r ddaearen.

*****

BLODEUYN A DORWYD (1904)

Y diwair deg flodeuyn – a dorwyd

O dir y byw’n sydyn!

I well gwlad, uwch gwyll y glyn

Ac o olwg pob gelyn.

*****

CAN I REILFFORDD BARRI (1891)

BUDDUGOL YN EISTEDDFOD CADOXTON.

 

Mor raddol mae Duw, ‘n ei ragluniaeth,

Yn darllen ei feddwl i ddyn,

Yr hyn y mae wedi ‘i fwriadu

Er maith dragwyddoldeb ei hun;

E dry dudalenau ‘i rol enfawr,

Fe’i dengys yn haen ar ol haen,

Yr hyn y mae dwylaw’r ddynoliaeth

Hyd heddyw heb arnynt roi staen.

 

Mae Duw yn darparu ei arwyr

I ddangos ei fwriad i’r byd;

Ond rhyfedd i lyfrau mawr Barri

Gael bod yn seiliedig cyhyd;

Anturiaeth! a fuost ti’n hepian?

Neu ynte mewn carchar tan glo?

Na feiddiet ddadblygu’r drychfeddwl

Gychwynwyd yng Nghastell Gwaenfo.

 

Fe fu Captain Jenner yn curo*

Yr haiarn pan nad oedd yn boeth;

Rhyw hyf anturiaethwr gwyllt ydoedd-

Meddyliwyd ei fod yn annoeth;

Ond ha! erbyn heddyw dychymyg

Y gwron o Gastell Gwaenfo

Fydd ffaith anwadadwy yn gweithio

I lusgo’r mynyddoedd i’r fro.

 

Mae clywed a gweled cerbydres

Yn cyflym chwyrnellu trwy’r fro,

A buan hirfeinion linynau

Yn llwythog a llawnion o lo,

Yn gysur i galon trigolion

Tref Powis a Chadoxton syw,

Y porthladd a’r rheilffordd dynasant

Rhai miloedd i Farri i fyw.

 

I Walker, yr hyf anturiaethwr,

Estynwyd allweddau y graig,

Agorodd hen goffrau cloedig

Rhwng pentref yr Hafod a’r aig;

Dyffrynoedd a lanwodd i fyny,

Clogwyni yn ddarnau a wnaeth,

Ac heddyw mae’r rheilffordd yn siglo

Hen ddwylo y mynydd a’r traeth.

 

Dadwreiddiodd brif dderw cadarngryf,

Agorodd y creigiau o’i flaen,

Fe dreiddiodd i’r celloedd dirgelaf,

Dadtododd hwynt faen ar ol faen;

Fe rwygodd ddirgelion llyfr anian,

Fu’n nghau er dechreuad y byd,

O! ryfedd gywreinwych beirianwaith,

Ti yraist ddynoliaeth yn fud.

 

Pe codai trigolion cyn Barri

I fyny’n ddamweiniol o’u bedd,

A gweled y porthladd a’i fasnach,

Ni fedrent adnabod ei wedd;

Llewygent a gwelwent ar unwaith,

Rhyfeddent wrth glywed y draul;

Dychmygent eu bod wedi codi

Ar blaned tu arall i’r haul.

 

Bu Cwmni y Taff yn gwrthsefyll

Ei dwyn hi trwy’r Senedd ar frys;

Ond ah! yr oedd wedi ‘i chynllunio

A’i chario mewn llawer uwch llys;

‘Doedd Walker ond dynol offeryn

I gario y bwriad i ben;

‘Roedd Duw wedi creu y defnyddiau,

Ac yntau’n agoryd y llen.

 

‘Roedd Davies, Llandinam, anturus,

A’r glewion Ddavisiaid Blaengwawr

A’u llogell wrth wraidd yr anturiaeth,

Pa fodd ä yn fethiant yn awr?

Mae gan y cwmpeini cyfoethog

Lawn ddigon o nwyddau mewn stôr,

I gadw y reilffordd i weithio

O bentref yr Hafod i’r môr.

 

O gelloedd mynyddoedd Cwm Rhondda

Daw allan y “diamwnd du,”

Y Cymmer, y Coedca, a’r Ocean-

Rhai ydynt ddihysbydd eu bri;

Priodant â hi yn yr Hafod.

Y fan lle’r agorodd ei dôr,

Trosglwydda hwy ‘i waered i Barri,

A denfyn hwynt ffwrdd gyda’r môr.

 

*****

Y GOLEUNI TRYDANOL (1891)

 

Wrth droi tudalenau hen gyfrol y cread,

A chwilio ‘i dirgelion yn haen ar ol haen,

Gwneir darganfyddiadau newyddion beunyddiol,

A dwylaw’r ddynoliaeth heb arnynt roi staen;

Dadguddiad diweddar yw’r goleuni trydanol,

Ddangosodd celfyddid a gwyddor i’r byd,

Yr hwn a fu’n llechu yn nh’wllwch yr oesoedd.

O werthfawr oleuni, b’le buost ti c’yd?

 

Dy chwaer ydyw’r fellten, fu’n fflachio ar Sina,

Nes gyru’r fath ddychryn drwy’r gwersyll islaw,

A’r daran ruadwy arswydus yn canlyn,

R’un lanwai fynwesau y genedl â braw;

Ond ah! erbyn heddyw mae dyfais dynolryw

Yn medru dy arwain di gerfydd dy drwyn;

Hwy wnant i ti gludo mil myrdd o negesau,

Gosodant ti losgi fel canwyll wen fwyn.

 

O lachar oleuni! wyt blentyn trydaniaeth,

A’r baban ieuengaf sydd ganddo yn awr;

Wrth edrych i mlaen i’r dirgelion dyfodol

‘Rwyn gweled dy deulu’n lluosog a mawr;

Chwi yrwch yr ager yn ddi-son am dano,

Ysbeiliwch y ceffyl defnyddiol o’i daith,

Dy dad fydd yn gyru peirianau’n glo byllau,

A thithau’n goleuo pob cell yn y gwaith.

 

Efeilliaid elfenol yw’r fellten adeiniog

A’r goleu trydanol mewn gwydrau uwch ben;

Pan egyr ei lygaid mae’r ser yn c’wilyddio-

Ni phrisia ddifoddi aur lampau y nen;

Goleuni sy’n gyru y nwy i’r cysgodion,

Goleuni arbeda i’n trefydd fawr draul;

Ca wresog dderbyniad i’n mawrion balasau-

Goleuni mor llachar a pheledr yr haul.

 

Oleuni trydanol! mawrygir di heddyw,

Wyt fel ymherawdwr yn codi i fri;

Croesawir di mewn i’r neuaddau cyhoeddus,

Mae urddas St. Stephan yn plygu i ti;

Tydi sy’n goleuo i ddadleu gwladlywiaeth,

Ti wedi roi sêl ar gyfreithiau ein gwlad;

O dan dy oleuni boed iddynt gyduno;

Llewyrcha i galonau blaenoriaid y gâd.

 

Ac fod y fellten hyf, chwimwth mor ffyrnig,

Mae’r dyn ddigon beiddgar i danio ei ffroen;

Ac yn lle crochruo yn daran ddychrynllyd,

Ymostwng i’w deddfau yn ufudd fel oen;

Fe ‘i gesyd mewn lampau ar hyd ein dinasoedd,

Arweinia i fewn i balasdai ein gwlad,

Fe dynodd y colyn oedd farwol o’i chynffon,

Mae’n llosgi fel olew, heb chwerwder na brâd.

 

Pan fyddo hen Anian gan nwyau’n clafychu

Try’n ryfel elfenol drwy’r gwagle uwchben;

Y mellt fydd yn gwibio fel meinion ribanau,

Neu seirff tanllyd ffyrnig yn gwau trwy y nen;

‘Rol hollti canghenau y derw llydanfrig,

A thaflu castellau cadarngryf i’r ffos,

Hi dry yn forwynig ‘wyllysgar ac ufydd,

Hi yra i gerdded dywyllwch y nos.

 

Tydi yw’r daranfollt sy’n hollti pinaclau,

Ti fedri ddychrynu y teyrn ar ei sedd,

A llenwi ag arswyd holl demlau annuwiaeth,

Pan chwythu a’th anadl gyfeiliion i fedd;

Er cymaint beiddgarwch a dewrder y morwyr,

Pan fyddi’n llefaru ânt hwythau yn wan;

Ond er eu dychrynu pan ddelont i’r porthladd,

Harweinia’th oleuni hwy’n ddiogel i’r lan.

 

Mae amser i ddyfod â llongau yr eigion

Heb hwyl ac heb ager o amgylch y byd;

Bydd teulu trydaniaeth yn troi en holwynion

A llachar oleu’u ‘stafelloedd ‘r un pryd;

Dileir gwrthdarawiadau ar wyneb y cefnfor;

Goleudai nofiadwy fydd llongai y lli;

Rhybyddiant eu gilydd o bell drwy’th oleuni –

Dirgelwch y morwyr rhyw ddydd fyddi di.

 

Rhwydd hynt i ti bellach, oleuni ysblenydd,

A brysia i oleuo holl demlau’r gwir Dduw;

Rho fwy o oleuni i droi pechaduriaid

O’u ffyrdd cyfeiliornus at Iesu i fyw;

Bydd yno oleuni y dysglaer ogoniant-

Goleuni tragwyddol, goleuni di-draul;

Lle na fydd trydaniaeth nag angen am dano,

Goleuni a bery pan ddiffydd yr haul.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *